Skip to main content

Bwrdd Rhianta Corfforaethol

Beth yw 'Rhiant Corfforaethol'?

Efallai dy fod di wedi clywed y term 'rhiant corfforaethol' o'r blaen, ond beth mae'n ei olygu?

Os wyt ti'n 'blentyn sy'n derbyn gofal' neu wedi gadael gofal, mae gan yr awdurdod lleol (Cyngor Rhondda Cynon Taf) gyfrifoldebau gyda'u sefydliadau partner i ddarparu gofal a'r cymorth gorau posibl i ti.

Mae hyn yn cynnwys pobl ifainc:

  • sydd mewn gofal preswyl.
  • sydd mewn gofal maeth.
  • sy'n derbyn gofal gan berthnasau (sy'n byw gydag aelod o'r teulu heblaw rhiant).
  • sydd a gorchymyn llys yn eu gosod gyda'u rhieni.

Mae gyda ni Addewid Rhianta Corfforaethol er mwyn ein helpu ni i dy gefnogi di, plant eraill sy'n derbyn gofal, a'r rhai sy'n gadael gofal yn Rhondda Cynon Taf.

Bwrdd Rhianta Corfforaethol 7 Blaenoriaeth:

1. Sicrhau eich bod chi'n teimlo eich bod chi'n derbyn gofal da a chymorth.

2. Sicrhau bod gyda chi gyfle i ddweud eich dweud er mwyn gwella gwasanaethau a rhannu’r hyn rydyn ni wedi’i wneud i’w gwella.

3. Sicrhau bod gyda chi gartref sefydlog sy'n gyfforddus a diogel pan fyddwch chi'n derbyn gofal a phan fyddwch chi'n gadael gofal.

4. Sicrhau bod gyda chi fynediad at gymorth iechyd meddwl a lles.

5. Sicrhau bod gyda chi fynediad at wybodaeth a chymorth er mwyn byw yn annibynnol.

6. Sicrhau bod gyda chi ddeilliannau da o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

7. Sicrhau bod eich cyflawniadau yn cael eu dathlu.

CPB Cymraeg

Addewid Rhianta Corfforaethol ar gyfer Rhondda Cynon Taf 15.4.24